Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2020
Amser:
09.00 -
09.27
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddau newid ym musnes yr wythnos hon - ychwanegiad datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar Tata Steel, a’r datganiad ar y Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru sydd bellach yn cael ei gyflwyno gan Ddirprwy Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Camerâu ymlaen yn ystod y cyfnod pleidleisio
Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes ddweud wrth yr Aelodau am gychwyn eu fideos yn ystod y cyfnod pleidleisio, fel mater o gwrteisi a threfn dda. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i fynd i'r afael ag unrhyw faterion technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Aelodau'n methu â phleidleisio
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y gellir atal y cyfarfod ar unrhyw adeg os yw’r Aelodau’n cael anhawster pleidleisio ac os bydd 3 Aelod yn gofyn am hynny.
Newidiadau
Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i beidio â mynd i mewn i'r Siambr nes bod y gloch wedi canu. O'r wythnos hon ymlaen, bydd y tywyswyr yn gofyn i'r Aelodau beidio â mynd i mewn i'r Siambr tra mae gwaith glanhau ar y gweill.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (30 munud)
·
LCM ar Fil Marchnad Fewnol y
Deyrnas Unedig (45 munud) - gohiriwyd tan 1 Rhagfyr
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020
· LCM ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (45 munud)
Gofynnodd Darren Millar i’r llywodraeth leihau'r amser ar gyfer datganiadau neu gyhoeddi rhai fel datganiadau ysgrifenedig os oes nifer ohonynt.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn dyddiad cau’r pwyllgor ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer yr LCM ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i 26 Tachwedd 2020.
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
· Dadl ar ddeiseb P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
3.4 Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod - dewis cynnig i’w drafod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Tachwedd:
NNDM7481 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ac i leihau gwastraff yng Nghymru.
1. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) creu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, lle byddai defnyddwyr yn talu blaendal, a fyddai’n cael ei ad-dalu wrth ddychwelyd y cynhwysydd;
b) lleihau nifer y poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â chaniau dur ac alwminiwm;
c) ymateb i’r nifer cynyddol o wastraff ailgylchadwy, fel cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei ddefnyddio i ymladd COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau yn cael eu taflu ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a
ch) cynyddu atebolrwydd, trwy roi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau’r achosion o daflu gwastraff ailgylchadwy, a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael ar wella amgylchedd naturiol Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drefnu’r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ar gyfer 10 Chwefror 2021.
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddydd Llun 23 Tachwedd fel terfyn amser i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Rhaglen waith weithdrefnol
Rhaglen waith weithdrefnol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y rhaglen waith a nodwyd a chytunodd hefyd i adolygu'r gweithdrefnau ar gyfer adalw'r Senedd o dan Reolau Sefydlog 12, yn ogystal ag o dan adolygiad Rheol Sefydlog 34